Mae fflecsi yn ffordd wahanol o deithio ar fws ac yn wasanaeth newydd cyffrous gan Trafnidiaeth Cymru mewn partneriaeth 芒’ch gweithredwyr bysiau lleol.
Lawrlwythwch ein ap neu ffoniwch ni
Agorwch eich cyfrif neu ffoniwch ni ar 0300 234 0300
Archebwch eich taith
Dewiswch eich pwyntiau casglu a gollwng. Byddwch yn derbyn cadarnhad a diweddariadau byw o鈥檆h bws.
Teithio
Ewch i鈥檆h man casglu mewn digon o amser a byddwch yn barod i ddechrau鈥檆h taith.
Lawrlwythwch yr ap fflecsi i archebu
Ein ap yw鈥檙 ffordd hawsaf o ddefnyddio fflecsi. Mae鈥檙 ap yn dangos i chi ble mae鈥檆h gwasanaeth fflecsi, ble bydd yn eich casglu a phryd fydd e鈥檔 cyrraedd.
neu archebwch drwy ein ffonio ar 0300 234 0300


Sut mae鈥檔 gweithio
Mae bysiau fflecsi yn eich casglu a’ch gollwng yn ardal y gwasanaeth ac nid wrth arosfannau bysiau yn unig. Bydd bws yn eich casglu ar eich cais, gan newid ei lwybr er mwyn i bob teithiwr gyrraedd lle maent angen ei gyrraedd. Nod fflecsi yw helpu pobl i wneud teithiau lleol hanfodol.
Eich diogelwch yw ein blaenoriaeth ac rydym wedi cynllunio fflecsi i gludo teithwyr yn ddiogel. Mae gwybod ymlaen llaw faint o deithwyr y byddwn yn eu casglu yn golygu y byddwn yn gallu rhoi sicrwydd o sedd i chi a chadw pellter cymdeithasol.
Pam nawr?
Er mwyn galluogi mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus eto, mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth 芒 gweithredwyr bysiau lleol i ddarparu gwasanaethau ar alw ledled Cymru.
Gall fflecsi ein helpu i ddarparu’r gwasanaethau hynny mewn ffordd ddiogel a chynaliadwy, gan ddiwallu anghenion lleol gyda gwasanaethau hyblyg wedi’u cynllunio i ddod atoch chi.
Rydym yn monitro pa mor boblogaidd yw gwasanaethau ac yn addasu sut a ble mae fflecsi yn rhedeg i ddiwallu’r anghenion hynny.

Lleoliadau fflecsi
Mae fflecsi wedi'i gynllunio i ddiwallu anghenion lleol - edrychwch ar y lleoliadau isod i weld sut mae'n gweithio ym mhob ardal
Cwestiynau?
Mae fflecsi wedi鈥檌 greu i fod yn wasanaeth fforddiadwy a byddwch yn cael gwybod y pris cyn i chi archebu. Gallwch ddefnyddio eich tocyn tymor neu docyn sydd wedi鈥檌 brynu ymlaen llaw o hyd.
Mae gweithwyr y GIG, y Gwasanaethau Ambiwlans, T芒n a Heddlu yn cael teithio am ddim yn ystod y pandemig. Dangoswch eich bathodyn adnabod staff i鈥檙 gyrrwr.
Mae gostyngiadau MyTravelpass yn gymwys.
Gallwch hefyd ddefnyddio eich cerdyn teithio rhatach 60 oed a h欧n ac anabl.
Mae fflecsi yn ymateb i鈥檙 galw ar y pryd, er mwyn i chi allu archebu cyn teithio. Bydd dewis o wasanaethau ar gael.
Gallwch. Gallwch ddefnyddio鈥檆h cerdyn rhatach ar bob gwasanaeth fflecsi.
Byddwch yn talu ar y bws drwy ddefnyddio cerdyn banc digyffwrdd neu Smartcard. Mae鈥檔 ddrwg gennym, ond allwn ni ddim derbyn taliadau arian parod ar hyn o bryd.
Y ffordd orau o archebu a rheoli eich teithiau yw lawrlwytho ein ap ar eich ff么n clyfar neu lechen, ond gallwch ein ffonio i gadw鈥檆h lle hefyd ar 0300 234 0300.
Mae ein ap yn ffordd gyflym a hawdd o wneud cais am fflecsi. Ar 么l i chi archebu, bydd yr ap yn rhoi鈥檙 wybodaeth ddiweddaraf i chi gan roi gwybod i chi lle mae eich bws, ble y gallwch chi fynd ar y bws a phryd y bydd yn cyrraedd.
Os nad oes gennych chi ff么n clyfar neu lechen gallwch ein ffonio i archebu ar 0300 234 0300.
Bydd eich bws yn eich casglu o fan cyfleus sy鈥檔 agos i ble rydych chi, ond efallai nad safle bws fydd hwn. Os ydych chi鈥檔 defnyddio ein ap, bydd yn dangos eich man casglu.
Os ydych chi鈥檔 ein ffonio i archebu, bydd ein cynghorwr yn egluro ble mae鈥檆h pwynt casglu.
Bydd ein ap yn dweud wrthych chi pryd fydd y bws yn cyrraedd. Gofalwch eich bod yn y man casglu mewn da bryd.
Mae angen i ni sicrhau bod eich gwasanaeth fflecsi yn rhedeg yn rhwydd oherwydd bydd teithwyr eraill yn dibynnu arno. Bydd eich bws yn aros amdanoch chi am 2 funud, ond yna bydd yn rhaid iddo adael i gasglu鈥檙 teithiwr nesaf.
Peilot yw hwn sy鈥檔 cael ei gynnal gan weithredwyr lleol, cynghorau a Trafnidiaeth Cymru i weld pa mor dda mae teithio ymatebol yn gwasanaethu ein cymunedau.
Os yw鈥檙 peilot yn llwyddiannus, mae鈥檔 bosib y byddwn yn cyflwyno fflecsi i fwy o ardaloedd mewn partneriaeth 芒 gweithredwyr lleol.
Byddwn yn datblygu ffyrdd newydd o archebu yn y misoedd nesaf, gan gynnwys eich galluogi i archebu ymlaen llaw ar fysiau a fydd yn cysylltu 芒 gwasanaethau rheilffyrdd.
Trwy archebu鈥檙 gwasanaeth rydych chi am ei ddefnyddio, gallwn roi sicrwydd i chi y bydd ein bysiau ond yn casglu鈥檙 nifer y gellir eu cludo鈥檔 ddiogel tra鈥檔 cadw at y rheolau cadw pellter cymdeithasol.
Mae ein bysiau yn cael eu glanhau鈥檔 drylwyr bob nos ac rydym yn glanhau鈥檙 mannau sy鈥檔 cael eu cyffwrdd gan gwsmeriaid fel polion dwylo a chanllawiau gafael.
Byddwch yn talu ar y bws drwy ddefnyddio cerdyn banc digyffwrdd neu Smartcard. Mae鈥檔 ddrwg gennym, ond allwn ni ddim derbyn taliadau arian parod ar hyn o bryd.
Mae gwasanaethau fflecsi yn cael eu darparu gan weithredwyr bysiau lleol sy鈥檔 gweithio gyda chynghorau a Trafnidiaeth Cymru.
Os nad ydym wedi ateb eich holl gwestiynau, e-bostiwch ni yn helo@fflecsi.cymru neu ffoniwch ni ar 0300 234 0300.