Skip to main content
1

Cynlluniwch eich taith

Gall trafnidiaeth gyhoeddus gymryd mwy o amser nag arfer

2

Gwisgwch wyneb sy'n gorchuddio

Helpwch ni i atal lledaeniad coronafeirws drwy wisgo wyneb sy'n gorchuddio ar bob trafnidiaeth gyhoeddus

3

Stay safe

Parchu ein cydweithwyr a'n teithwyr diogelwch. Cofiwch na all pawb wisgo wyneb sy'n gorchuddio

Gwisgwch rywbeth i guddio eich wyneb

Mae’n rhaid i chi wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus er mwyn helpu i atal y coronafeirws rhag lledaenu i deithwyr eraill a staff oni bai eich bod wedi’ch eithrio. Dewch â gorchudd wyneb gyda chi a’i wisgo cyn mynd i mewn i’r orsaf neu cyn mynd ar y bws neu’r trên.

Mae Llywodraeth Cymru’n argymell gwisgo gorchudd wyneb tair haen oherwydd gall fod yn anodd cadw pellter cymdeithasol ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Does dim rhaid i blant dan 11 oed, pobl sy’n cael anawsterau anadlu neu bobl sydd â salwch neu nam corfforol neu feddyliol neu anabledd wisgo gorchudd wyneb.  Rhaid i blant dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb oni bai eu bod yn anabl neu’n dioddef o anawsterau anadlu.

Gallwch weld rhestr lawn Llywodraeth Cymru o eithriadau yma

Gallwch weld rhagor o wybodaeth am wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus yn Lloegr yma.

Sut y gall fflecsi helpu

Mae COVID-19 wedi effeithio’n fawr ar drafnidiaeth gyhoeddus ac ar sut rydyn ni i gyd yn teithio, ac mae llai o bobl yn teithio. Mae llawer o weithwyr allweddol yn dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd y gwaith tra bod angen i eraill ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i wneud eu siopa hanfodol.

Gall fflecsi helpu’r teithwyr hyn mewn ffordd ddiogel a chynaliadwy, gan ddarparu gwasanaethau pryd bynnag a lle bynnag y bydd eu hangen fwyaf. Mae dewis pryd rydych chi am deithio hefyd yn golygu y gall gweithwyr allweddol gyrraedd y gwaith yn brydlon ac y gallwch chi wneud teithiau hanfodol heb fawr ddim oedi.

Mae fflecsi yn wasanaeth peilot newydd cyffrous gan Trafnidiaeth Cymru a gweithredwyr bws lleol. Byddwn yn monitro a yw’n helpu pobl i deithio ac os yw’n boblogaidd, gallai rhai gwasanaethau fflecsi barhau i redeg ochr yn ochr â’ch gwasanaethau bysiau amserlen arferol unwaith y byddwn ni ar y lôn eto.

Cwestiynau?

Gallwch, ond dim ond ar gyfer siwrneiau hanfodol y dylech wneud hynny neu os mai dyna yw eich unig opsiwn i deithio. Rydym yn dal i gael llai o wasanaethau ac rydym am gynnig y posibilrwydd o deithio mor ddiogel â phosibl i bobl nad oes ganddynt ddull arall o gludo. 

Gyda gwasanaethau cyfyngedig, defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer teithiau hanfodol yn unig.

Eich diogelwch yw ein prif flaenoriaeth ar rydyn ni wedi gwneud ymrwymiadau pwysig er mwyn eich cadw chi a’n pobl yn ddiogel yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi creu rhestr ddefnyddiol i bobl cyn iddyn nhw gychwyn ar eu teithiau.

  • Cynlluniwch eich taith
  • Ydw i angen teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus?
  • Alla i gerdded neu seiclo i le rydw i’n mynd?
  • Ydw i wedi edrych ar y cyngor teithio diweddaraf gyn fy ngweithredwr cludiant?
  • Ydw i wedi gofyn am unrhyw gymorth bydd ei angen arna i?
  • Ydw i wedi archebu fy nhocyn teithio ar lein neu wedi gwneud yn siŵr bod talu digyswllt yn bosib?
  • Ydw i wedi cynllunio fy nhaith i osgoi ardaloedd prysur ac wedi ystyried oedi?
  • Ydw i’n cymryd y llwybr mwyaf uniongyrchol i le rydw i’n mynd?

Beth ddylech chi fynd gyda chi:

  • FfĂ´n (os oes ei hangen ar gyfer diweddariadau teithio, tocynnau, taliadau digyswllt)
  • Tocynnau
  • Diheintydd
  • Meddyginiaethau hanfodol
  • Hancesi papur
  • Gorchudd wyneb

Gallwch, ond dim ond os yw eich taith yn hanfodol neu os mai dyna eich unig opsiwn. Ystyriwch gerdded neu feicio lle y bo’n bosibl er mwyn ein helpu i gadw’r lle cyfyngedig sydd ar gael ar drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer gweithwyr allweddol y mae angen iddynt deithio yn Ă´l ac ymlaen i’r gwaith. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd yn rhaid i deithwyr wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus o 27 Gorffennaf ymlaen i helpu i atal lledaenu’r feirws i staff ac i deithwyr eraill.

Does dim angen i’r teithwyr canlynol wisgo gorchudd wyneb:
•    plant dan 11 oed
•    y rheini sy’n cael trafferth anadlu
•    y rheini sydd â salwch neu nam corfforol neu feddyliol, neu anabledd

Gallwch weld rhestr lawn Llywodraeth Cymru o eithriadau yma.

Daliwch ati i ddilyn y mesurau cadw pellter cymdeithasol, ac os oes gennych chi unrhyw symptomau o’r coronafeirws, peidiwch â theithio. Gallwch ddarllen y canllawiau diweddaraf yma.

Na fydd, fydd ddim rhaid i chi wisgo’r gorchudd wyneb nes byddwch chi’n barod i fynd ar y bws. Dim ond wrth deithio ar gerbydau trafnidiaeth gyhoeddus mae’n rhaid gwisgo gorchudd wyneb. Bydd disgwyl i chi ddilyn y canllawiau cadw pellter corfforol a gwneud yn siŵr bod eich dwylo’n lân cyn i chi fynd ar y drafnidiaeth gyhoeddus.

Rydym yn cynghori eich bod yn cymryd digon o amser i roi eich gorchudd wyneb arno’n iawn ac osgoi cyffwrdd blaen eich gorchudd wyneb wrth ei wisgo.

 

O ddydd Llun 27 Gorffennaf, os ydych yn teithio heb orchudd wyneb gallech chi gael eich dirwyo neu eich gwahardd rhag teithio. Dydy hyn ddim yn wir ar gyfer teithwyr sydd wedi’u cynghori i beidio â gwisgo gorchudd wyneb:

  • plant o dan 11 oed
  • y rheini sy’n cael trafferth anadlu
  • pobl anabl

I osgoi hyn, rydyn ni’n gofyn bod teithwyr yn ein helpu drwy ddilyn y canllawiau diweddaraf er mwyn cadw’r rhwydwaith trafnidiaeth mor ddiogel â phosib i gyd-deithwyr a’n staff.

Mae cerbydau a threnau trafnidiaeth gyhoeddus yn parhau i gael eu glanhau’n drylwyr yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Mae llefydd sy’n cael llawer o ddefnydd fel byrddau, handlenni a mannau sy’n cael eu cyffwrdd yn aml gan deithwyr yn cael eu glanhau’n rheolaidd a thrylwyr, mae hyn yn cynnwys ardaloedd mewn gorsafoedd.

Mae cadw staff rheng flaen mor ddiogel â phosib yn un o’n prif flaenoriaethau, ac rydyn ni’n gweithio gyda darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus i wneud yn siŵr bod staff a theithwyr yn cael eu cadw mor ddiogel â phosib.