Parth Sain Ffraid
Mae parth gwasanaeth Sain Ffraid yn cysylltu penrhyn Tyddewi â dinas fach fach fywiog Tyddewi, a phentrefi arfordirol trawiadol Bae Sain Ffraid â thref sirol brysur Hwlffordd.
Mae cysylltiadau â gwasanaethau rheilffyrdd a gwasanaethau bws ar gael yn Hwlffordd.
Mae parth Sain Ffraid yn cynnig teithiau i gymudwyr o ddydd Llun i ddydd Gwener gan sicrhau y byddant yn cyrraedd Hwlffordd am 0830 ac yn dychwelyd adref am 1730.
Dim ots beth yw diben eich taith, gallwch archebu i gael eich codi neu eich gollwng unrhyw le yn y parth Sain Ffraid sy’n cael ei ddangos ar y map yn ystod yr oriau gwasanaeth isod. Gall Fflecsi eich hebrwng yno a’ch dychwelyd eto:
Dydd Llun, Dydd Mercher, Dydd Gwener | 07:30 i 12:30 16:30 i 18:30 |
Dydd Mawrth, Dydd Lau | 07:30 i 10:30 12:45 i 14:45 16:30 i 18:30 |
Dydd Sadwrn | 10:30 i 12:30 15:30 i 17:30 |
Parth Sant Aidan
Mae’r parth yn cynnwys y llwybr pererindod hynafol a ddilynwyd gan Sant Aidan ac mae’n wasanaeth delfrydol i archwilio arfordir ysblennydd gogledd Sir Benfro, yn ogystal â mynediad i siopau, gwasanaethau a gweithgareddau yn Abergwaun a Thyddewi.
Mae cysylltiadau â gwasanaethau rheilffyrdd a gwasanaethau bws ar gael yn Abergwaun. Mae gwasanaeth St Aidan hefyd yn cyd-fynd â Gwibiwr Strwmbwl (Gwasanaeth Bws 404), gan roi mwy o ddewisiadau i gerddwyr ac ymwelwyr ag arfordir Sir Benfro.
Dim ots beth yw diben eich taith, gallwch archebu i gael eich codi neu eich gollwng unrhyw le yn y parth Sant Aidan sy’n cael ei ddangos ar y map yn ystod yr oriau gwasanaeth isod. Gall Fflecsi eich hebrwng yno a’ch dychwelyd eto:
Dydd Llun, Dydd Mercher, Dydd Gwener | 13:15 i 16:15 |
Dydd Mawrth, Dydd Lau | 10:30 i 12:30 13:15 i 16:15 16:30 i 18:30 |
Dydd Sadwrn | Tyddewi i Abergwaun drwy Barth Sant Aidan Cyrraedd Abergwaun am 09:30 dychweld am 14:15 Abergwaun i Dyddewi drwy Barth Sant Aiden |
Parth Jemima
Mae parth Jemima wedi’i enwi ar ôl Jemima Niclas, arwres leol chwedlonol. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys yr ardal rhwng Abergwaun a Hwlffordd. Mae’r gwasanaeth yn eich galluogi i archwilio tapestri Glaniad y Ffrancod yn Abergwaun a Pharc Gwledig Maenordy Scolton. Gallwch chi hefyd ddefnyddio Fflecsi i gael mynediad i siopau, gwasanaethau a gweithgareddau yn Abergwaun, Treletert a Hwlffordd.
Mae cysylltiadau â gwasanaethau rheilffyrdd a gwasanaethau bws ar gael yn Abergwaun a Hwlffordd.
Dim ots beth yw diben eich taith, gallwch archebu i gael eich codi neu eich gollwng unrhyw le yn y parth sy’n cael ei ddangos ar y map yn ystod yr oriau gwasanaeth isod. Gall Fflecsi eich hebrwng yno a’ch dychwelyd eto:
Dydd Llun, Dydd Mercher, Dydd Gwener | 09:00 i 12:00 12:45 i 14:45 16:30 i 18:30 |
Dydd Mawrth, Dydd Lau | 09:00 i 12:00 |
Dydd Sadwrn | Abergwaun i Hwlffordd drwy Barth Jemima
Cyrraedd Hwlffordd am 10:30 dychwelyd am 13:15 |
Cwestiynau?
Sut mae’n gweithio
Mae bysiau fflecsi yn eich codi a’ch gollwng ledled ardal y gwasanaeth ac nid dim ond mewn safleoedd bws. Gall y bws eich codi ar eich cais, gan newid ei lwybr fel y gall pob teithiwr gyrraedd lle mae angen iddynt fynd. Nod fflecsi yw helpu pobl i wneud teithiau lleol hanfodol.
Archebwch ymlaen llaw drwy ddefnyddio’r ap neu drwy ffonio 0300 234 0300. Mae amrywiol wasanaethau ar gael. Mae’r gwasanaethau wedi’u cynllunio fel bod gan bawb yng Ngogledd Sir Benfro ddewisiadau teithio bob wythnos. Mae hon yn ardal eang iawn, felly mae gwasanaethau’n amrywio o ddydd i ddydd – gall fflecsi wasanaethu un pentref un diwrnod ac un arall y diwrnod nesaf.